CAPEL SALEM, DOLGELLAU
    TAFLEN WYBODAETH  TACHWEDD 2007

Annwyl Ffrindiau
'Rydan ni'n dal yn nhymor y Diolchgarwch ac 'aur liwiau yr Hydref' o'n cwmpas ym mhobman yn ein hatgoffa o fawredd y Creawdwr. Mae'r diweddar T.J.Davies yn dweud yn un o'i ysgrifau:
"Fel yr aeddfeda'r dail ar y coed daw plwc o ddiolch blynyddol i galon pechadur a sant. Ac mae Salem, Sant Mair a Seion (B), chware teg iddynt, yn trefnu cyfle i droi diolch ardal yn gorws o foliant i'r Rhoddwr daionus".
A do, mi gawsom ninnau yn Salem gyfarfodydd Diolchgarwch eitha lluosog a hyfryd iawn eu naws eleni eto. Onid oes ganddom ni gymaint o le i ddiolch, cymaint o le i 'ganu cân o fawl i'n Harglwydd Dduw'!
A'r ffordd orau o amlygu ein diolch, yn sicr, yw trwy ymroi o newydd i waith ein Harglwydd Iesu Grist, a'i ddilyn yn dynnach a'i garu'n anwylach o ddydd i ddydd.
Braf gweld bod y Seiat, y Gymdeithas a'r Cwrdd Plant wedi cael cychwyn da ac edrychwn ymlaen at dymor arall o gymdeithasu a chyd addoli.
Hoffwn longyfarch Catrin James ar gael ei phenodi yn ddirprwy Brif Eneth Ysgol y Gader. Mae Catrin yn parhau'n ffyddlon i'r Ysgol Sul ac yn barod iawn ei chymorth gyda'r plant. Da iawn ti, Catrin a diolch i ti am fod mor barod i helpu.
Cafodd Mrs Olwen Hughes, Llys Myfyr ddamwain yn ei chartref a thorri ei braich. Mae hi bellach yn gwella yn Ysbyty'r Dre ac 'rydym yn anfon ein cofion a'n dymuniadau gorau ati.
'Rydym bellach tua hanner ffordd at gyrraedd ein targed at Apêl Sierra Leone. Diolch o galon i bawb ohonoch am eich cyfraniadau o ddrws i ddrws, ac i'r blaenoriaid am eu casglu. Mae trysorydd yr eglwys,  John Cadwaladr, yn paratoi i feicio i'r Bermo ac yn ôl yng nghwmni'r ddau ysgrifennydd, Alun Williams a Dwyryd Williams, er mwyn chwyddo'r gronfa ymhellach. Mae'r cyfeillion hyn yn chwilio am noddwyr a bydd cyflogwyr John Cadwaladr, sef Banc y Barclays, yn rhoi punt am bob punt a gesglir i'w noddi. Gwerthfawrogwn eto bob cefnogaeth i'r triawd heini!
I'r un perwyl, sef cyrraedd ein nôd ariannol tuag at Apêl Sierra Leone cyn diwedd y flwyddyn, bydd Cinio am £10 y pen yn cael ei weini yn Nhy'n y Coed, Arthog, ar ôl yr Oedfa ddydd Sul, Rhagfyr 2il. Mae'n ofynnol i chi roi eich enwau mewn da bryd i Mr Alun Williams. Bydd yntau'n gadael i Gerallt Hughes wybod faint o datws a moron i'w crafu! Ond o ddifrif, oherwydd ei  bod yn bosibl y bydd yn rhaid cyfyngu peth ar y nifer, y cyntaf i'r felin piau hi!
Mae'n diolch ni'n ddiffuant iawn i'r cyfeillion hyn am eu parodrwydd i  gynorthwyo i godi arian fel hyn ac i bawb fydd unwaith eto yn cefnogi. Mae'n anffodus bod y gweithgareddau i gyd yn cael eu cywasgu i fisoedd olaf y flwyddyn fel hyn. Petae'r Festri wedi bod ar gael fe fyddem , yn ddi-os, wedi dechrau ar y gweithgareddau yn gynt. Serch hynny, 'rwy'n hollol ffyddiog y byddwch yn ymateb â'ch haelionni arferol. Wedi'r cyfan, mae gennym ni, yn y gorllewin, gymaint i fod yn ddiolchgar amdano.
                      Yn gywir,
                               
Megan Williams

Taflenni Gwybodaeth i Aelodau