EIN PERERINDOD I DDYFFRYN OGWEN
Yn brydlon am un o'r gloch, prynhawn dydd Sul, Gorffennaf 6ed, cychwynodd llond bws a aelodau a ffrindiau ar daith i gyfeiriad Dyffryn Ogwen..Yno, cawsom ein tywys o gwmpas yr ardal gan Mr.J.Elwyn Hughes, sydd yn awdurdod ar hanes y fro. Mae Mr Hughes yn awdur nifer o lyfrau hefyd a bydd llyfr newydd o'i eiddo, sef "Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad" yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr haf. Yn y llyfr hwn cawn hanes cefndir a'r cymeriadau go iawn sydd y tu ôl i'r nofel Un Nos Ola Leuad. Wrth deithio yn y bws  dangosodd nodweddion daearegol y dyffryn i ni a chyflwynodd lawer o wybodaeth ddiddorol am hanes a llenyddiaeth yr ardal.. Yna, wedi paned a thê ardderchog yn Nghapel Seilo Caernarfon cawsom gyfle i gyd-addoli yn y capel o dan arweiniad y Barchedig Gwenda Richards. I orffen y daith mwynhaodd pawb swper blasus yn Y Bedol, Bethel. Diolch  i'r swyddogion am drefnu taith lwyddiannus

Uchod - Rhai o'r pererinion yn gwrando'n astud ar sgwrs Mr Hughes.
Isod - Bedd R.Williams Parry ym mynwent Coetmor, Bethesda.

Uchod - Mr J.Elwyn Hughes ger bedd Caradog Prichard yn rhan eglwysig mynwent Coetmor Bethesda

Taflenni Gwybodaeth i Aelodau