|
Gosodwyd carped clyd ar y llawr a phrynwyd dodrefn ac offer addas i greu amgylchfyd deniadol a dymunol ar eu cyfer. Mae'r athrawesau a'r mamau gweithgar wedi mabwysiadu dulliau bywiog y Cynllun Sachau Stori i gyflwyno gwersi i'r plant bach ac mae'n braf gweld y festri ar ei newydd wedd a'r plant wrth eu bodd gyda'u dosbarth newydd. Yn y llun ar y dde gwelir Mrs Rhianwen Edwards, Arolygwraig yr Ysgol Sul, yn adrodd stori "Moses yn yr Hesg" i'r plant. Ar y dde isod gwelir rhai o aelodau dosbarth Mrs Llinos Cadwaladr, sef y plant 8 i 11 oed yn ymarfer canu ar gyfer gwasanaeth arbennig, dan arweiniad ein gweinidog, y Parchedig Megan Williams. Seilir eu gwersi hwy ar y llyfryn "Gôl", sef yr ail lyfr yn y gyfres ar gyfer dosbarthiadau Ysgolion Sul. Mae'r plant hynaf a'r bobl ifanc yn astudio'r trydydd llyfr yn y gyfres, sef "Stilio", dan arweiniaid eu hathrawes, Mrs Bethan Williams. Mawr yw ein dyled i athrawesau ymroddgar yr Ysgol Sul am eu llafur di-flino.
|
|