CAPEL SALEM, DOLGELLAU
TAFLEN WYBODAETH MAI 2008

Annwyl Gyfeillion
Dyma ni ar drothwy'r Sulgwyn, Gwyl yr Ysbryd Glân, a ninnau'n cofio am y gwynt nerthol a'r tafodau tân yn disgyn ar yr Apostolion a'u troi'n genhadon brwdfrydig ac eofn dros Iesu Grist. Mae dyhead Gwili am dywalltiad o'r Ysbryd Glân i'n gwneud ninnau, bob un, yn genhadon llawer mwy brwd yn taro tant y Sulgwyn yma eto!
Ddiddanydd anfonedig nef              Rho'r hyder anorchfygol gynt
    Fendigaid Ysbryd Glân,                    ddilynai'r tafod tân;
Hiraethwn am yr awel gref              chwyth dros y byd fel nerthol wynt,
    A'r tafod tân.                                    O Ysbryd Glân.

A thra'n sôn am y Sulgwyn cofiwch bod Eglwys Sant Mair eto eleni yn estyn gwahoddiad i bawb i ymuno yn y Cymun Sanctaidd yn Abaty Cymer am hanner dydd ar y Sulgwyn, sef Mai 11eg.  `Dyw hi ddim yn bosibl eleni inni gychwyn yr oedfa chwarter awr yn gynt ond gwnawn bob ymdrech i orffen mewn da bryd i'r rhai ohonoch sydd am gerdded i Lanelltyd i ymuno â'r cerddwyr sy'n cychwyn o'r Marian am 11am.

'Rydym yn llawenhau yn fawr fel Eglwys ein bod wedi cael dau flaenor newydd, sef y Mri Henry Edwards a John Cadwaladr. Llongyfarchiadau i chwi eich dau. Mae'ch eglwys wedi estyn braint fawr ichwi ac wedi dangos ymddiriedaeth fawr ynoch ac 'rwy'n gwbl sicr y byddwch yn ymroi o ddifrif  i'r gwaith.

Daeth cwmwl o dristwch dros yr ardal gyda'r newydd am farwolaeth Aled Penrhiw. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i Helen a'r teulu yn Y Pentre ac i'w rieni a'r teulu cyfan. 'Roedd y gwasanaeth angladdol yn y Tabernacl ddydd Sadwrn, Ebrill 26ain, yn deyrnged addas a hyfryd i'r gwr ifanc poblogaidd yma. Byddwch fel teulu yn ein meddyliau a'n gweddïau yn y cyfnod anodd yma o ddygymod â phrofedigaeth mor greulon a boed i gariad a thangnefedd Duw gastellu amdanoch bob un.

Ar nodyn llawen hoffwn longyfarch un o'n haelodau ifanc, Gareth Cadwaladr, ar ei ddyweddiad i Ysan (Yzzi) Bentham, Tanygrisiau. Pob bendith a hapusrwydd i'r ddau ohonoch.
Llongyfarchiadau hefyd i Gwerfyl (Price) a Mark Trumper, Penybryn ar ddod yn rhieni i efeilliaid, dau fachgen bach sy'n eu cadw'n bur brysur ar hyn o bryd!

Bydd Gwasanaeth Undebol Cymorth Cristnogol yn cael ei gynnal yn Salem, nos Sul nesaf pryd y disgwyliwn Anna Jane Evans, Trefnydd Cymorth Cristnogol yn y Gogledd i'n hanerch.
Mi hoffwn yn fawr weld cynulleidfa deilwng yn y gwasanaeth hwyrol yma. Mae'r Gwasanaeth eleni yn cynnwys clipiau byr o ffilm am waith Cymorth Cristnogol.  Mae nifer ohonoch wedi cytuno i gasglu o ddrws i ddrws eleni eto a mawr yw ein dyled ichwi.  Bydd yr amlenni casglu a.y.b. yn cael eu dosbarthu ichwi ar derfyn yr oedfa .
Hefyd yn y cyswllt yma daeth gair o ddiolch inni o'r Swyddfa  ganolog yng Nghaedydd am yr ymateb rhagorol i Apêl Sierra Leone. Llwyddodd y Presbyteriaid trwy Gymru i gasglu £244,609 tuag at yr Apêl arbennig yma..

Mae Mrs Catherine Humphreys, Llys Dedwydd, wedi dychwelyd o Ysbyty Llandudno i Ysbyty'r Dref ar hyn o bryd. Anfonwn ein cofion a'n dymuniadau da iddi ac i bawb ohonoch sydd heb fod yn rhy dda y dyddiau yma.

                                 Yn bur,
                                    Megan Williams